answersLogoWhite

0

Tydi, a roddaist liw i'r wawr

A hud i'r machlud mwyn

Tydi , a luniast gerdd a sawr

Y gwanwyn yn y llwyn

O, cadw ni rhag collir hud

Sydd heddiw'n crwydro drwy'r holl fyd.

Tydi, a lunaist gan i'r nant

A'i su i'r goedwig werdd,

Tydi, a roist i'r awel dant

Ac i'r eheddyd gerdd

O, cadw ni rhag dyfod dydd

Na yrr ein calon gan yn rhydd.

Tydi, a glywaist lithriad traed

Ar ffordd Calfaria gynt,

Tydi, a welaist ddafnnau gwaed

Y Gwr ar ddieithr hynt;

O, cadw ni rhag dyfod oes

Heb goron ddrain na chur na chroes.

User Avatar

Wiki User

12y ago

What else can I help you with?